P-03-273 Cludo tyrbinau gwynt yn y Canolbarth
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i Awdurdodau Cynllunio Lleol i sicrhau eu bod yn ymgynghori’n briodol â chymunedau ynghylch datblygiadau ffermydd gwynt a’u bod yn cynnal asesiad priodol o effaith y datblygiadau ar y seilwaith ffyrdd gan ystyried sut y bydd problemau traffig yn effeithio’n ehangach ar sectorau fel twristiaeth cyn cymeradwyo unrhyw ddatblygiad. Credwn mai dim ond drwy gynnal ymchwiliad cyhoeddus y gellir cwblhau asesiad priodol.
Cynigwyd gan:Cyngor Tref y Trallwng
Nifer y llofnodion: 1